Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 22 Mai 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(66)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol). (5 munud) 

NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.

Dogfen Ategol
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru ar gyfer Twf a Swyddi (30 munud)

</AI4>

<AI5>

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Y Polisi Amaethyddol Cyffredin: Safbwynt Cymru (30 munud)

</AI5>

<AI6>

6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trefniadau newydd ar gyfer darparu cymorth gyda’r Dreth Gyngor yng Nghymru (30 munud)

</AI6>

<AI7>

7. Dadl ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ (60 munud) 

NDM4891 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ ynghylch y cynnig i ddatblygu un corff i reoli adnoddau naturiol yng Nghymru.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad “Adnoddau Naturiol Cymru” ar gael drwy fynd i:

http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/singlebody/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i bryderon y sector coedwigaeth a fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arbenigedd masnachol y sector coedwigaeth yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn nhrefniadaeth unrhyw un corff amgylcheddol newydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei adroddiad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr achos busnes dros yr uno wedi’i gyhoeddi cyn ymgynghori ar nodau’r un corff amgylcheddol.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon presennol sector coedwigaeth Cymru o ran creu’r un corff amgylcheddol.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-archwilio prif nodau ac amcanion strategol yr un corff amgylcheddol er mwyn cael sicrwydd ac eglurder llwyr yn eu cylch.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigedd masnachol yn y sefydliad newydd.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o drefniadau diogelu yn yr un corff amgylcheddol petai gwrthdaro mewn buddiannau rhwng y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno a’r trefniadau caniatáu ar gyfer prosiectau ynni ar y tir hwnnw.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

 

</AI8>

<AI9>

8. Dadl Fer (30 munud) 

NDM4889 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):

Cyfranogaeth a grymuso yn nyfodol Gwasanaethau Gofal yng Nghymru – Mentrau Cydweithredol, Cwmnïau Cydfuddiannol a thaliadau uniongyrchol.

I drafod profiadau o ran taliadau uniongyrchol yn ogystal â modelau cydfuddiannol a chydweithredol ar gyfer gwasanaethau gofal yn dilyn adroddiad Scope “Unigoliaeth neu Gyfunoliaeth ym Maes Gofal: A all taliadau uniongyrchol helpu i greu cymunedau cryfach?”

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 23 Mai 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>